Ymddarostyngwn i Dduw Iôr

(A wnaed ar ddydd y diolwch cyffredinol
am edfryd Heddwch 1815 - Rhan II)
Ymddarostyngwn i Dduw Iôr
Sy'n llywodraethu tir a môr,
  Mae ei freniniaeth dan y nef
  Yn ol llesâd ei 'wyllys ef.

O profwn, gwelwn, ddäed yw!
Ei fys a ddengys fe sy Dduw;
  Mae'n D'wysog hedd
      a Brenin mawr
  Da ar luoedd daear lawr.

Y cleddyf rhoes a'r wayw ffon
I orphyws oddi ger ein bron,
  Ein gelyn ffrwynodd, codwn lef
  I ddiolch am ei ofal ef.

Duw Iôn â'i law
    sy'n tynu i lawr,
Ac yn derchafu i fyny'n fawr;
  Mae ar freninoedd byd yn Ben,
  I'w enw y byddo mawl, Amen.
Robert Davies (Bardd Nantglyn) 1769-1835
Diliau Barddas 1827

[Mesur: MH 8888]

gwelir: Rhan I - O crea Arglwydd galon lân

(Composed on the day of general thanksgiving
for the restoration of Peace 1815 - Part 2)
Let us humble ourselves before God the Lord
Who is governing land and sea,
  His kingship under heaven is
  According to the furtherance of his will.

O let us prove, let us see, how good he is!
His finger shows that he is God;
  He is the Prince of peace
      and a great, good
  King, over the hosts of earth below.

The sword he put, and the spear,
To rest away from before us,
  Our enemy he reined, let us raise a cry
  To give thanks for his care.

God the Lord with his hand
    is bringing down,
And raising up greatly;
  He is Head over the kings of the world
  To his name be praise, Amen.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~